top of page

Mae'r Gymraeg yn hollol bwysig i mi a dwi'n ddigon hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth neu wasanaeth yn yr iaith.

Pam mae'r Gymraeg yn bwysig i mi?

Mae'r Gymraeg yn agos iawn i fy nghalon achos cefais fy magu mewn teulu sy’n siarad Cymraeg yn y cartref. Oherwydd hyn, mae’r iaith yn rhan bwysig o fy hunaniaeth, ac felly mae'n naturiol i mi ddefnyddio'r Gymraeg yn fy ngwaith.

Fy Ngwasanaeth Ffotograffiaeth

Dwi’n falch o allu darparu fy ngwasanaeth ffotograffiaeth trwy’r Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg. Dwi'n deall bod llawer o bobl eisiau cynnal sesiynau lluniau yn y Gymraeg er mwyn cysylltu â’u teuluoedd yn well. Mae hefyd yn bwysig i sawl un i gynnal eu seremoni priodas neu ddigwyddiadau eraill trwy’r iaith Gymraeg. Fel ffotograffydd sy’n siarad a deall yr iaith, dwi'n gallu cynnig gwasanaeth mwy personol a chysurus, a sicrhau bod pob un moment arbennig yn cael eu dal yn y ffordd orau drwy'r iaith rydych chi'n caru.

Profiadau Corfforaethol

Mae gen i brofiad o ffotograffio ar gyfer sawl mudiad a sefydliad Cymraeg, gan gynnwys yr Urdd, Mudiad Meithrin a Barddas. Dwi’n deall yr angen am barch i’r iaith a’r diwylliant Cymreig wrth weithio gyda chwmnïau a mudiadau sy’n defnyddio’r Gymraeg.

Eisiau Sgwrs?

Os oes gennyt unrhyw gwestiynau neu os wyt ti’n dymuno trafod dy ddiwrnod arbennig neu unrhyw sesiwn lluniau, anfona neges ataf. Byddaf wrth fy modd yn helpu!

bottom of page